Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Ionawr 2023
Amser:
13.30 -
15.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13181
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Peter Fox AS Samiwel Davies, Gwasanaethau Cyfreithiol Aled Evans, Gwasanaethau Cyfreithiol Tyler Walsh, MSS Peter Fox |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Fox AS, yr Aelod o'r Senedd sy’n gyfrifol am y Bil.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)312 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(6)308 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 4) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol.
5.2 Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.
5.3 Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Dirprwy Weinidog.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.
6.2 Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi: Y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.
6.3 Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 a Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog.
6.4 Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Y Bil Bwyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd gan Peter Fox AS.
9 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.